2014 Rhif 1999 (Cy. 200)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy Orchymyn drefniadau asesu mewn cysylltiad â’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir wneud trefniadau i bob disgybl yn y cyfnod sylfaen gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn cysylltiad â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”) (erthygl 3).

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir wneud trefniadau i bob disgybl yn yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn cysylltiad â’r rhaglenni astudio y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 2 o Orchymyn 2013 (erthygl 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif 1999 (Cy. 200)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014

Gwnaed                           23 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       28 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym                              1 Medi 2014

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 1 Medi 2014.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—

(a)     sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a

(b)     datblygiad mathemategol;

ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—

(a)     Saesneg;

(b)     Cymraeg; ac

(c)     Mathemateg;

ystyr “y rhaglenni addysgol” (“the educational programmes”) yw’r rhaglenni addysgol hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013([3]); ac

ystyr “y rhaglenni astudio” (“the programmes of study”) yw’r rhaglenni astudio hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 2 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at y cyfnod sylfaen i’w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002.

(3) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol i’w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.

Asesiad Athro neu Athrawes: y cyfnod sylfaen

3. Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl yn y cyfnod sylfaen gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ar gyfer y meysydd dysgu perthnasol.

Asesiad Athro neu Athrawes: yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol

4. Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl yn yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni astudio ar gyfer y pynciau perthnasol.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

23 Gorffennaf 2014



([1])           2002 p. 32.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2013/434 (Cy. 52).